Tudalen:Teulu Bach Nantoer.djvu/29

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD VI

BUAN y daeth y pum wythnos o wyliau haf i ben, a bu'n rhaid i Ieuan ac Alun a Mair adael y rhos, y gwair, y môr, a'u dirif chwaraeon, a mynd bob dydd fel cynt erbyn naw o'r gloch i ysgol y pentref.

Eithr yr oedd yn yr ysgol a'i gwaith hefyd lawer o fwynhad a swyn i'r tri. Ar ddiwedd mis Hydref, yr oedd yno waith pwysig iawn i'w wneud, sef symud y plant o un safon i'r llall. Rhoddid gwobrwyon hefyd i'r plant a oedd wedi dangos gallu neu ofal neilltuol mewn unrhyw gyfeiriad yn ystod y flwyddyn; a'r tro hwn, caed addewid gan y Parchedig Rhys Puw, rheithor y plwyf, y deuai i gyflwyno'r gwobrwyon a rhoi araith i'r plant.

Y degfed ar hugain o Hydref oedd-dydd nad anghofiwyd gan y plant a'u mam drwy eu hoes. Dydd cawodog oedd wedi storm enbyd o wynt a glaw. Yr oedd yr afon fach yn llawn hyd yr ymylon, a rhuthrai ei dyfroedd llwyd i lawr fel rhaeadr i ddal yr afon Gwynli lawr yn y dyffryn. Ni welwyd y fath genllif yno ers blynyddoedd. Gwyw a gwael eu gwedd oedd y gweddill bychan o flodau'r