iddynt, a'i fod am iddynt oll wrando. Ym meddwl mwy nag un o'i wrandawyr ieuainc, arhosodd sylwedd ei eiriau dwys am byth. Tebyg i hyn oeddynt-
ANNWYL BLANT,
"Da iawn gennyf cael cyfle i'ch annerch, chwi blant bychain o Gymry ynghanol y wlad. Ar fyr, byddwch wedi tyfu'n ddynion ac yn ferched, a chwi, ac eraill fel chwi, fydd yn cario achos Cymru yn y blaen. Am hynny, hoffwn ddweud rhywbeth heddiw a fydd o les i chwi, ac a gofiwch byth pa le bynnag y byddoch.
"Fel y gwyddoch, mae llawer o wahanol genhedloedd yn y byd. Cymry ydym ni, Saeson sydd yn ein hymyl yn Lloegr, Ffrancwyr yn Ffrainc, Ellmynwyr yn yr Almaen, Eidalwyr yn yr Eidal, ac felly yn y blaen. Mae'r cenhedloedd hyn i gyd yn wahanol i'w gilydd-un yn dda yn y peth hwn, y llall yn rhagori yn y peth arall, ac nid yw'r un ohonom yn berffaith. Ond yr wyf am i chwi wybod mor dda yw gen i mai Cymro ydwyf. Mae'n well gen i am Gymru nag am un wlad arall dan haul. Gwell fyddai gennyf fod yn Gymro tlawd nag yn ddyn o fri i genedl arall. Os ymffrostio mewn dim, ymffrostio a wnaf am fy mod yn Gymro, ac