Tudalen:Teulu Bach Nantoer.djvu/35

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD VII

AR brynhawn dydd y gwobrwyo, gan nad oedd ysgol, cafodd y tri phlentyn waith wrth eu bodd. Cawsant fynd i Fronifor i helpu dyrnu tas wenith gyntaf y tymor. Eiry fach yn unig, felly, a oedd gartref gyda'i mam.

Lle llawn o ryfeddodau ar amser o'r fath oedd yr ysgubor eang honno. Ar un ochr, yr oedd pentwr anferth o ysgubau, a gludwyd i mewn o'r das y bore hwnnw. Gwaith un o'r gweision a Ieuan oedd datod y rhai hynny a'u taflu i ben y peiriant uchel oedd yn rhuo, yn oernadu, ac yn crynu ar y llawr yn ymyl. Mewn math o bulpud ar ben hwnnw, yr oedd Daniel, y gwas mawr. Ei waith ef oedd agor yr ysgubau a'u taflu i mewn i enau agored y peiriant. O'r tu mewn i hwnnw, rywfodd, gwahenid yr ŷd a'r tywys, a lluchid y gwellt allan yn chwyrn un ffordd, a'r grawn gwenith ffordd arall. Sathru'r gwellt oedd gwaith Alun a Mair, a chaent redeg a chwarae faint a fynnent ynddo. Cyn diwedd y gwaith, yr oedd y pentwr ysgubau ar y naill ochr, ar lawr yn isel, a'r gwellt a hwythau ar yr ochr