Tudalen:Teulu Bach Nantoer.djvu/39

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD VIII

ER mor wahanol oedd aelwyd y bwthyn bach wedi colli Eiry, aeth y byd yn ei flaen fel cynt. Daeth un dydd ar ôl y llall, nes i'r peth a oedd mor newydd a chyffrous gilio ymhell i'r gorffennol. Mynych, mynych, er hynny, gyda brig yr hwyr, yr âi Gwen Owen allan i'r cae bach, gan gerdded yn araf gyda glan yr afon a syllu i lawr i'w dyfroedd fel pe o hyd yn disgwyl gair o hanes ei merch fach. Dilynai Mair hi bob amser, gan gydio yn ei llaw a mynd gyda hi heb holi i ble'r âi, na phaham. Ond sisial ganu'n felys wnai'r afonig, yr un fath â honno y sonia Ceiriog amdani, fel pe heb wybod dim am ofid byd.

Ymhen tua blwyddyn, daeth yn amser i Ieuan adael yr ysgol, a pha grefft i'w rhoi iddo oedd y pwnc mawr a lanwai feddwl ei fam. Byd llyfrau oedd byd Ieuan. Eisiau dysgu a dysgu a oedd arno o hyd. Eithr cyn cael addysg dda, rhaid cael arian o rywle. Nid oedd arian gan Ieuan. Yr oedd yr amser wedi dod iddo ennill ei fwyd ei hun, ac i fachgen tlawd, heb dad, nid oedd ond un drws yn agored yn y wlad, sef bod yn was bach