Tudalen:Teulu Bach Nantoer.djvu/42

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD IX

UN haf, yr ail i Ieuan ym Mronifor, daeth gŵr dieithr brawd y ffermwraig-i aros yno. Cyfreithiwr oedd Mr. Bowen yng Nghaerdydd, ac yr oedd sôn amdano fel un galluog yn ei waith, ac fel dyn caredig a da.

Yr oedd y cynhaeaf ŷd wedi dechrau: Bron bob dydd ym Mronifor gwelid rhes o ddynion yn torri'r ŷd â'u pladuriau, a rhes o fenywod a'r gwas bach yn rhwymo'r ysgubau ar eu hôl.

Un diwrnod, ganol dydd, pan oedd y gweithwyr i gyd yn mwynhau eu hawr o seibiant wedi bwyta eu cinio syml o uwd a llaeth, daeth Mr. Bowen ar ei dro trwy'r cae. Gorweddai rhai o'r dynion ar eu hyd o dan gysgod coeden; ysmociai eraill eu pibellaid yn hamddenol; yr oedd y twr gwragedd yn mwynhau ymgom felys, ac ar wahân, yn eistedd ar ysgub yn ymyl y clawdd, yr oedd y gwas bach a'i ben yn dynn mewn llyfr. Cerddodd Mr. Bowen ymlaen ato.

"Darllen wnewch chwi, ai e, yn lle gorffwys?" ebe'n serchog. Cododd Ieuan ar