Tudalen:Teulu Bach Nantoer.djvu/45

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhoddai'r bach am ychydig wellt o law Daniel, a thra y gofalai hwnnw am ddefnyddiau'r rhaff, troai Ieuan yn ddibaid, gan gerdded wysg ei gefn nes cyrraedd pen pellaf yr ysgubor. Pan oedd ef wrthi felly, yn brysur yn troi ac yn meddwl, daeth Ann y forwyn fach i'r ysgubor, a chan fynd at Ieuan, a chymryd y trowr o'i law, dywedodd—

"'Rwyf fi yn dod i droi, Ieuan. Mae ar Mr. Bowen eisiau siarad â chwi am funud yn y tŷ."

"Ieuan," ebe Mr. Bowen, "yr wyf yn mynd i ofyn cwestiwn ichwi, ac yr wyf am i chwi feddwl digon cyn ei ateb. Yn lle bod yn was bach yma, a hoffech chi ddod yn was bach i mi yng Nghaerdydd? Mae eisiau bachgen o'ch oed chwi arnaf yn fy swyddfa. Carwn roi cyfle i chi i ddysgu ac i ddod ymlaen yn y byd. A hoffech chi ddod?"

Daeth y dagrau i lygaid Ieuan, ond wedi munud o ddistawrwydd, edrychodd i wyneb Mr. Bowen, ac atebodd—

'Buasai'n well gennyf ddod yn was i chwi, syr, na mynd i unlle arall yn y byd, a dod a wnawn ar unwaith oni bai am mam. Nid yw hi wedi bod yn iach iawn wedi colli Eiry, ac