Tudalen:Teulu Bach Nantoer.djvu/46

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr wyf am ennill arian, fel na raid iddi hi weithio llawer. Byddai'n dda gennyf pe bawn yn gallu dod, ond nid wyf am adael mam, ac os gwelwch yn dda, syr, peidiwch â dweud wrthi eich bod wedi gofyn i mi."

"Da gennyf weld eich gofal am eich mam, Ieuan," ebe Mr. Bowen. Yr wyf wedi bod yn siarad â hi a hefyd â Mr. Howel, eich ysgolfeistr. Y mae eich mam yn falch o'r cyfle i chwi gael dod, a gofalaf fi y cewch ennill arian i'w helpu eto.

"O, os gallaf wneud hynny, ac os yw hi'n fodlon i mi ei gadael, mi ddof yn llawen," ebe Ieuan.

"Bydd hiraeth ar eich mam, wrth gwrs, ond y mae pob rhieni yn gorfod dioddef gweld eu plant, drwy un ffordd neu'r llall, yn eu gadael," ebe Mr. Bowen. "Bydd hyn yn y diwedd yn llawer mwy o les i'ch mam."

'Rwy'n ddiolchgar iawn ichwi, syr," ebe Ieuan, a'i lais ar dorri.

Ni fuaswn yn gwneud hyn â chwi, Ieuan, oni bai fod pawb yn rhoi gair da i chwi. Dywedai Mr. Howel eich bod yn ffyddlon a diwyd gyda'ch gwersi yn yr ysgol, eich bod bob amser yn dweud y gwir, a'ch bod yn un y gellir dibynnu arnoch, a hefyd, eich bod yn