Tudalen:Teulu Bach Nantoer.djvu/49

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD X

YMHEN tua deufis ar ôl hyn, wedi calan- gaeaf, diwedd blwyddyn y fferm, gadawodd Ieuan fwthyn gwyn ei febyd; gadawodd dawelwch gwlad am firi tref, a gwaith anorffen fferm am waith y swyddfa. Bore prudd iawn i bawb o'r teulu bach oedd bore'r gwahanu hwnnw. Ychydig iawn a oedd ganddynt i'w ddweud wrth ei gilydd. Yr oedd cynghorion Gwen Owen wedi eu rhoi ymhell cyn y bore hwnnw-caent eu gwau i mewn yn raddol i gymeriadau ei phlant, nes eu troi'n egwyddorion y gellid dibynnu arnynt. Ynghanol ei hiraeth, llawenhai'r fam fod y cyfle i ddringo wedi ei roi i'w bachgen—cyfle i ddod rywbryd i fod yn lles yn y byd. Ef ei hun mwy oedd i benderfynu pa ddefnydd a wnai o'r cyfle.

Yr oedd Natur, y bore hwnnw, fel petai'n cydymdeimlo â theulu'r bwthyn bach.

Bore tawel, distaw, oedd, a rhywbeth rhwng niwl a glaw mân-fel dagrau dwys cyfaill yn gwlychu'r ddaear heb wneud yr un sŵn. Trwy ganol hwn yr aeth Ieuan yn y fen fawr i orsaf Llanerw, gan adael ei fam ac Alun a Mair