Tudalen:Teulu Bach Nantoer.djvu/50

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn brudd a hiraethus ar ben y lôn fach yn chwifio eu dwylo arno nes iddo fynd o'r golwg yn y drofa. Yn ei lythyr cyntaf i'w fam, ysgrifennodd Ieuan ei deimladau mewn pennill. Mae Cymry'r mynydd—dir i gyd yn feirdd, a chyda dagrau, daw yn fynych gerdd. Wele bennill Ieuan,—

Niwl orchuddiai fro a bryniau
Ar brudd fore'r canu'n iach,
Wylai'r awel ddagrau ffarwel
Drwy y tawel bentref bach.
Wylai'r grug—y grug diflodau,
Wylai'r eithin ddagrau'n lli,
Wylai'r coedydd, wylai'r caeau—
Ac fe wylai 'nghalon i.


Ond nid oedd ymadawiad Ieuan yn orffen i'r gwahanu. Cafodd Alun fynd yn was bach i Fronifor ar ôl Ieuan; ond wrth gyrchu'r defaid a'r gwartheg, ac wrth ddilyn yr ôg i lyfnu'r tir yn y gwanwyn, crwydro at y môr a wnai llygaid Alun o hyd. Ar y môr yr oedd ei galon, a blino ei fam am ganiatâd i ddilyn ei elfen a wnai o hyd.

"Wedi colli Eiry a cholli Ieuan, a raid i mi dy golli di eto, Alun bach?" oedd cri'r fam.

"O, mam fach," meddai Alun, "gadewch i mi fynd. Mi ddof a phob math o bethau o'r gwledydd pell i chwi i'ch gwneud yn