Tudalen:Teulu Bach Nantoer.djvu/51

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hapus, a phan fyddaf yn gapten, cewch chwi a Mair ddod gyda mi am fordaith.'

Gwneu arno'n fwyn a wnai ei fam, ac o'r diwedd, cafodd Alun ei ddymuniad. Cafodd le yn llong y Capten Prys, ac ym mis Tachwedd, wedi gorffen ei flwyddyn ym Mronifor, trodd yntau allan i'r byd, gan hwylio o Lundain yn yr agerlong Glory ar ei fordaith gyntaf i Fôr y De.