Tudalen:Teulu Bach Nantoer.djvu/53

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

prysur ddod i'r amlwg. Deuai sôn am dano'n fynych gyda'r awel i fro dawel ei febyd. Nid yn unig ar gyfrif ei waith fel cyfreithiwr, ond cymerai ddiddordeb mawr mewn pob pwnc o bwys, yn enwedig pob pwnc ynglŷn â'i wlad. Clywid ef yn fynych yn siarad yn gyhoeddus, a phroffwydai pobl ddyfodol gwych iddo.

Er hoffed oedd Ieuan yng ngolwg ei fam, nid llai hoff ganddi Alun. Yn ei le ei hun, dringo o hyd wnai yntau hefyd. Aethai trwy un arholiad ar ôl y llall yn llwyddiannus, ac yr oedd ei nod, bellach, yn y golwg, sef bod yn gapten. Hyfryd iawn oedd yr olwg arno yn ei ddillad morwrol, a lliw'r haul ar ei wyneb, a glesni'r môr yn ei lygaid.

Nid yn aml y cai Alun ddod adref; ai deunaw mis heibio, weithiau heb ei weld. Bob tro y deuai, gwnai Ieuan ei ffordd yn rhydd i ddod hefyd.

Yr oedd Mair yn awr yn ferch ieuanc brydferth ugain oed. Wedi gorffen ei hysgol yn Rhydifor, cawsai aros yno fel athrawes. Yr oedd felly yn abl i gael addysg ei hun, ennill ei bywoliaeth, a hefyd fod gartref yn gwmni i'w mam. O dan ei gofal hi, daeth Nantoer yn lle mwy swynol a thlws nag erioed. Yr oedd pob man o'i fewn ac o'i