Tudalen:Teulu Bach Nantoer.djvu/54

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gylch mor lân, a'r ardd fel yn gartref rhosynnau. Pan ddeuai'r bechgyn adref ar eu tro—Alun o'r môr ac Ieuan o'r ddinas fawr—nid rhan fechan o'u mwynhad oedd cael cwmni eu chwaer, a'u gwylio mor hardd a lluniaidd yn symud o gylch y tŷ, ac yn gweini mor siriol arnynt hwy ac ar eu mam. Ac i Mair, nefoedd ei bywyd oedd yr ymweliadau hyn, oherwydd ni flinai ei brodyr ddod â phob math o bethau hardd iddi i'w gwisgo, a pha ferch nad yw'n hoff o bethau felly? Ai'r tri'n fynych gyda'i gilydd fraich ym mraich dros y rhos, hyd yr hen lwybrau, a mawr oedd eu hyfrydwch.

Ond pan ddeuent at y fan y bwrlymai'r afon fach dros y llethr i lawr i'r cae, distawent yn sydyn, a chofient am y llif flynyddoedd maith yn ôl, ac am Eiry, eu chwaer fechan, hoff, a'r llygaid glas, byw, a'r gwallt modrwyog, melyn, a gollasid mewn ffordd mor ryfedd, ac na welwyd mwy.

Un nos Wener, tua diwedd mis Hydref, cerddai Mair yn hamddenol trwy'r lôn fach ar ei ffordd adref o'r ysgol, pan welai ei mam yn dod i'w chyfarfod gan ddal llythyr yn ei llaw. Rhedodd Mair ati.

"Yr oeddwn yn dy ddisgwyl, Mair," ebe'r fam. "Dyma lythyr oddi wrth Alun o