Tudalen:Teulu Bach Nantoer.djvu/60

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yna adroddodd yr hanes—

"Yr oedd ein llong yn aros mewn lle o'r enw Hamilton, tref ar Ynys Bermuda ym Môr Iwerydd. Cerdded ar y traeth yr oeddwn i pan glywais weiddi mawr o'r môr. Yr oedd cwch bychan wedi dymchwelyd, a gwelwn ddyn a merch ieuanc yn dal eu gafael ynddo ac yn gweiddi am help. Medraf nofio'n dda, a chyn pen ychydig funudau, yr oeddwn yno—tua deugain lath o'r traeth. 'Achubwch fy merch,' llefai'r dyn, 'daliaf fi fy ngafael yn y cwch.' Rhywfodd, medrais ddod â hi i'r lan, ond bu agos i ni ein dau foddi. Nid oedd llawer o bobl ar y traeth, a boddodd ei thad cyn i neb gael cwch i fynd ato. Yr oedd y fam bron yn wallgof—yn falch am fod ei merch yn fyw, a bron a thorri ei chalon am golli ei gŵr. Gofynasant fy enw a'm cyfeiriad, a chyn i'r llong adael Hamilton, daeth hi a'i mam i'r bwrdd a'r oriawr a'r llun yma i mi. O, dyna ferch hardd oedd hi! Pan oedd yno yng nghanol y môr, a'i dillad gwynion am dani a'i gwallt hir yn nofio ar wyneb y dŵr, edrychai fel angyles neu fôr—forwyn. A dyna hardd oedd hi yn ei dillad duon ar y bwrdd! Wylai'r wraig yn rhyfedd wrth siarad â mi, a gofyn— nodd y ddwy i mi a awn i'w gweld pan fyddai ein llong nesaf yn Hamilton. Felly, hwyrach