Prawfddarllenwyd y dudalen hon
y gwelaf hi eto, mam," a deuai rhyw olau tyner iawn i lygaid y morwr bach.
Yr oedd calon y fam yn rhy lawn i ddweud llawer, ond gwyddai'r plant ei theimlad, ac yr oedd gwybod fod eu bywyd a'u gwaith yn y byd yn gwneud eu mam yn hapus yn fwy o dâl iddynt na dim clod a gaent gan eraill.