Tudalen:Teulu Bach Nantoer.djvu/62

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XIII

DRANNOETH, tua thri o'r gloch yn y prynhawn, cerddai Ieuan yn hamddenol gan fyfyrio a chwibanu ar hyd y lôn fach. Aethai Alun a Mair i'r pentref i wneud rhyw negeseuau dros eu mam. Rhyw ddisgwyl eu cyfarfod yn dod yn ôl yr oedd Ieuan yn awr.

Ond yn lle ei frawd a'i chwaer, rhyw ŵr a merch ieuanc nas adwaenai a welai yn dod yn nhro'r ffordd. Dyn byr, tywyll, oedd, ac edrychai'n graff ar Ieuan wrth ddynesu ato. Troai'r ferch ei llygaid mawr ato hefyd, a rhyw olwg hanner ofnus ynddynt. Yr oedd wedi gwisgo mewn du, a heb yn wybod iddo, hedodd meddwl Ieuan at stori Alun, ac at y llun a welsai, a meddyliodd mai'r ferch ieuanc honno oedd am ryw reswm wedi dod i'r cwr anghysbell hwnnw o'r byd.

Arosasant. Gofynnodd y dyn ai'r bwthyn hwnnw oedd Nantoer, ac a oedd Mrs. Owen yn byw yno. Atebodd Ieuan, a dywedodd mai ef oedd ei mab hynaf. Cyn i'r gŵr dieithr gael amser i esbonio rhagor, cerddodd