Tudalen:Teulu Bach Nantoer.djvu/66

Prawfddarllenwyd y dudalen hon
HAMILTON,
Ionawr 1af, 1897.

Yn haf y flwyddyn 1883 daeth fy mhriod a minnau i Gymru am dro. Wrth fynd i Lanywerydd, deuthum ar ddamwain gyffyrddiad â phedwar o blant bychain yn chwarae ar y rhos. Synnwyd fi gan dlysni'r un fechan ieuengaf, Eiry. Ymserchais ynddi o'r awr honno, a dymunwn ei gweld eilwaith. Cefais fy nymuniad. Gwelais hi yng Nglanywerydd gyda'i mam a'i chwaer, ac euthum yn fwy hoff fyth ohoni. Meddyliwn yn brudd, pam na chawn i ferch fechan felly pan oedd gennyf ddigon o arian i'w dwyn i fyny yn briodol, tra oedd y fam hon yn dlawd, a'r fath blant tlws ganddi. Dri mis ymhellach, wrth ddychwelyd, nid oedd gyrrwr gennym. Fy mhriod a minnau yn unig oedd yn y cerbyd. Mynnais gael mynd i lawr i'r bwthyn i weld y plentyn unwaith eto. Yr oedd rhywbeth o'm mewn yn gwneud i mi fynd. Gwyddwn, wrth yr hyn a ddywedai'r plant, nad oedd eisiau ond croesi'r rhos o'r ffordd uchaf. Yr oedd yn glir bryd hwnnw, ond pan oeddwn yn nesau at y bwthyn, daeth niwl tew yn sydyn i guddio pob man. Euthum at y drws. Curais, ond ni chefais