Tudalen:Teulu Bach Nantoer.djvu/67

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

atebiad. Agorais ef, ac euthum i mewn. Nid oedd neb yno neb ond yr un fechan a hoffwn yn gorwedd ar y gwely. Gwelais fy nghyfle y plentyn yn cysgu, heb neb yn y tŷ, a'r niwl ym mhobman. Meddwl newydd hollol oedd, nid oeddwn wedi bwriadu dim o'r fath wrth ddod lawr. Rhedais allan. Edrychais i bob man, a gwrandewais. Ni welais neb, ac ni chlywn ond rhu'r afon yn y cae gerllaw. Gwelais y glwyd a arweiniai ati, a gwnes fy mhenderfyniad. Yr oedd gennyf glôg am danaf. Rhoddais ef am y plentyn, gan ei chodi yn ei chwsg a'i gwasgu at fy nghalon. Yr oedd tegan bychan yn ei llaw. Teflais ef â holl nerth fy mraich i'r cae tua chyfeiriad yr afon, a dymunais y gwnai ei waith drwy dynnu sylw pobl at y ffordd honno, a pheri iddynt feddwl fod yr un fach wedi boddi. Cyrhaeddais y ffordd a'r cerbyd; ac er cymaint a wrthwynebai fy mhriod, mynnais gael fy ewyllys. Yr oeddwn mor wyllt fy ngwedd nes yr oedd arno ofn fy nghroesi. Yr oedd mantell arall gennyf yn y cerbyd. Rhwymais honno am Eiry, fel nad oedd berygl i neb weld ei gwisg. Yr oeddem yn hwylio drannoeth i America, a gwyddwn, os gwnai y tegan bach ei waith, ac os cawn y plentyn unwaith ar fwrdd y llong, y byddai popeth