Tudalen:Teulu Bach Nantoer.djvu/69

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

brudd amdani lawer gwaith, teimlais fy mai i'r byw. Meddyliwn fod Duw yn edrych arnaf drwy lygaid clir y morwr bach, a chredwn Ei fod, drwy gymryd fy mhriod mor sydyn, am fy nwyn ataf fy hun. O'r dydd hwnnw, ni chefais hedd i'm bron, a theimlwn, rywfodd, fod fy amser innau yn tynnu at y terfyn.

Trefnaf, felly, fod Eiry, wedi i mi farw, i gael ei dwyn yn ôl at ei theulu, a gobeithiaf fod ei mam yn fyw, ac y caf faddeuant ganddi. Unig oeddwn, ac mor siomedig; ac ymglymodd fy nghalon gymaint am ei merch fechan, dlos, a meddyliais yn y niwl a'r unigedd hwnnw ger y bwthyn fod nef a daear o'm tu. Dyma fi wedi ei magu yn dyner, ac wedi rhoi addysg dda iddi. Bu hithau'n ferch dda i mi heb erioed wybod fod ei mam ei hun yn fyw. Diolch am ei benthyg! Gwelwch, yn ôl fy ewyllys, fod fy arian a'm meddiannau i gyd iddi hi i wneud fel y mynno â hwy. {{c|(Arwyddwyd) ISABEL MAY.}]

Diwrnod rhyfedd fu hwnnw yn Nantoer, a diwrnodau rhyfedd fu y rhai dilynol. Meddyliai'r mam yn fynych mai breuddwyd