Tudalen:Teulu Bach Nantoer.djvu/7

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Teulu Bach Nantoer


PENNOD I

UN o nosweithiau hir y gaeaf oedd.

Oddi allan, rhuai'r gwynt a disgynnai'r glaw, ond ar aelwyd glyd Nantoer, gwenai'r tân yn siriol, ac yr oedd gwedd gysurus ar y teulu bychan o'i flaen. Newydd fynd heibio oedd y Nadolig, a gadawsai'r tymor hwnnw ei ôl yma fel mewn mannau eraill. Daethai rhyw Santa Clôs caredig heibio hyd yn oed i'r bwthyn bach ar fin y rhos, ac yn hapus a distaw, yn y mwynhad o'i roddion, y cawn, ar yr hwyr garw hwn, ein golwg gyntaf ar y teulu.

Ar bob ochr i'r tân, o dan y simne fawr, ymestynnai dau bentan hir. Ar y naill, eisteddai Ieuan, llanc llygatddu deuddeg oed, a'i bwys ar ei law, yn prysur ddarllen llyfr. Ar y llall yr oedd Alun a'i brennau a'i ysglod a'i offer saer, yn dwyn i fod ryw ryfeddod