Tudalen:Teulu Bach Nantoer.djvu/9

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd edrychiad ei llygaid yn dyner a dwys, a thawel bob amser oedd ei llais. Yr oedd y plant i gyd wedi dysgu bod yn ufudd iddi. Gwnaent bob amser, yn llon, yr hyn a geisiai, ac yn ôl eu barn unol a diysgog, nid oedd mam hafal i'w mam hwy gan neb o fewn y byd.

'Mam," ebe Ieuan yn sydyn, gan gau ei lyfr," teulu tlawd ŷm ni, onid ê?"

"Ie, mae'n debyg, 'machgen i," ebe'r fam yn ddistaw, Pam 'rwyt ti'n gofyn ?"

"Wedi bod yn darllen am Abraham Lincoln wyf. 'Roedd yntau mor dlawd ag y gallai fod, pan oedd yn blentyn, ond ef oedd prif ddyn America cyn iddo farw. Un fel Abraham Lincoln wyf fi'n mynd i fod pan ddof yn ddyn."

Edrychodd ei fam arno am funud cyn ateb. Mor debyg oedd i'w dad yn edrychiad ei lygaid! Yr oedd ei dad wedi bwriadu gwneud pethau mawrion, ond ar ôl dechrau llithro, yn is ac is yr aethai, nes cyrraedd y bedd cyn gwneud dim. Ai felly y byddai hanes Ieuan? Na, er tebyced oeddynt, yr oedd mwy o benderfyniad yn wyneb y mab. Hwyrach mai ym mywyd Ieuan y cai