Tudalen:Thomas Matthews, Cymru, Ionawr 1917.djvu/10

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mwyaf oll, bron, y ceisiai gerflunio yr Awen, yr Awen ddyrchafa ddyn i fyny —yr Awen ddeffry ddyn ym mhob oes a delfrydau newydd, delfrydau uwch a gwell na'r hen, gan mai o'r hen y datblygwyd hwynt. Dyma ei flaen—gerflun cyntaf, dyma yr ail,—dyma'r trydydd. Nid oedd eto wedi cael llwyr foddhad—os byth efe a'i caffai. Yr oedd pob ystum, pob plyg yn y wisg, pob osgo corff yn, ac i sylweddoli mai i fyny yr arweiniai dyn. Nis gallai ddweyd mor anhawdd oedd cyfleu ei ddychymyg, rhoddi ei ddelfryd. drwy gyfrwng y plastr fel gallai'r llygad. weled ac o weled, ddeall. Teimlai fod

'holl ddeddfau barddas yn rhy bur,
Rhy fewnol i'w hesbonio fyth yn glir,
A'u rhoi i lawr mewn geiriau fel y gallo
Y dwl eu hefelychu pan deallo."

Yr oedd dyn yn myned tuag i fyny—tua'r Ddinas Wen. Fel y dringai dyn tua'r Duwdod, yr oedd y weledigaeth yn myned yn fwy llachar, yn fwy gogoneddus——felly ni allai ef fyth fod yn foddhaus ar ei waith tra'n ceisio delfrydu yr Awen—Ceridwen ein cyndeidiau——mewn marmor. Gwelai rywbeth newydd bob dydd bron. Efallai, rywbryd, y daw'r symbyliad iawn, y weledigaeth eglur,' meddai, nid wyf wedi bod yn nhân y coethi ddigon eto. Onda daeth goleuni newydd ar ei wynepryd—"ond fe

'Ddaw adeg ar farddoniaeth na fydd un
Gyfundrefn gaethol o fesurau blin.
Na deddf
Ond greddf
Y dwyfol ddeddf o oll—bereiddiol rin
A orwedd yn yr enaid mawr ei hun.'

Yna gwelaf yn glir tu hwnt a thrwy'r llen a llwyddaf i fynegu fy nelfryd am yr Awen yn iawn."

Yr oeddym wedi siarad hyd nes oedd yn dywyll. Yr oedd yn amser cau, safai y concierge[1] yn foesgar i ni orffen. Gwrandawai'n syn, gallwn feddwl, er na ddeallai air, a braidd y gwyddem ei fod yno Yna troais at un blaen—gerflun, a dywedais wrtho "Dw i ddim yn deall hwn."

'O," meddai, gwnes hwnna ryw flwyddyn ar ol i fi briodi. Daeth y symbyliad ataf un noswaith, yn ddisymwth tua deg o'r gloch, a chwples ê tua doi yn y bore. Nis gwn beth yn y byd a'm gyrrodd. Mâ'r niger yna yn sylweddoli ffieidd—dra pethau atgas ym mywyd dyn, bywyd aflan. Weli di, nid ôs dim da bron yn ei fywyd. Mae ê bron yn anifel. Lyn du mewn gwirionedd—ac wyt ti'n gwbod byth y'n nhw? Menyw wen yw hon, ac mae hi yn sylweddoli tynerwch. Y mae hi wedi dihuno i beth ffieidd—dra. mae hi yn dirion—anwyl hiraethu am fywyd llawer yn uwch na'r anifel. Ond 'dyw hi ddim yn berffaith lân, wel di. Ond mae hi yn caru'r dyn du. Wyt ti'n deall y gwrthgyferbyniad? Wel! mi siaredais a'm gwraig am beth own i wedi wneud bore trannoeth—dâth hi geni i weld. Ches i ddim mwy o aeth eriod. Fy ngwraig oedd y Tiriondeb' oeddwn wedi lunio yn y clai—ond nid fel yr oedd hi pryd hynny; yr oedd hi lawer yn deneuach. Ond cyn i fi ddod ataf fy hun yr oedd hi mewn llewyg ar y llawr. Ar ol cetyn mowr o amser dâth hi ati ei hun. Ni allwn ddyfalu beth ôdd yn bod—na beth i wneud. Odd y cyfan yn wâth na mynd drw' uffern. Damed a thamed, mi ges y gwir. Ni wyddwn i ddim o'i hanes, weldi. Yr odd hi wedi bod yn ordderch i ddyn du cyn i mi ei phriodi. A hithe yn ferch ddeunaw ôd, denodd y cythrel du hi bant oddicartref dan addaw ei phriodi—a hi a aeth, gan gredu y gwnai ddaioni drw wneud pont rhwng y dyn gwyn a'r dyn du—dyna beth wedodd y cythrel wrthi. A'th yn ddirgel, oherwydd gwedodd y niger wrthi, efalle na fydde'i thad yn foddlon i'r briodas. Ag ôdd ê'n gweud y gwir. Fe'i saethe'i thad e pe fyse fe'n gwybod. Cadwodd hi gyda ê heb ei phriodi collodd bob cydymdeimlad ag e ofne ddianc, oherwydd gwelodd beth odd e, yn gloi iawn. Wel! yr own i wedi gwneud llun y niger cythrel hynny hefyd, heb i weld e erio'd—a'i llun hi fel ag yr odd hi gydag e odd y llall——cyn i fi erio'd i gweld hi. Seithodd ei thad y niger pan câs e wbod, a dâth a hi i Philadelphia. A dyna ffordd cwrddes i a nhw. 'Dwn i ffordd yn y byd galles i wneud hyn, wel di, lladdwd y niger cyn gallwn i erio'd i weld e ac ni wyddwn i ddim am y stori."

"Odi hi fyw 'nawr?"

"Nag yw. Bu farw wap ar ol hynny, a'r un bach. 'Falle'r wyt ti'n gallu deall pethe'n well 'nawr! Wyt ti?"

"Galli di ddod gen i heno? Na elli! Yfory? Dere, da ti? Ma'i fel câl chwa o Gymru i gâl siarad a thi yto. Cofia ddod am dri, 'te."

Paris, Ebrill 1911

T. MATTHEWS.

  1. Porthor