athrawol heb unrhyw gyfaddaster at hynny.
Ond fe gafodd Matthews ieuanc ei hun mewn gwaith ag oedd wrth fodd ei galon, a thrwy ei ynni a'i ddiwydrwydd enillodd ar derfyn ei gwrs yn yr ysgol elfennol Ysgoloriaeth ac Exhibition yng Ngholeg y Brifysgol yng Nghaerdydd. Bu yn efrydydd diwyd a llwyddiannus yno, ac ar derfyn ei dymor graddiodd yn B.A. gydag anrhydedd yn yr iaith Saesneg, a chafodd yr un pryd dystysgrif y Bwrdd Addysg o'r radd flaenaf. Nid oedd hyd yn hyn wedi gwneud amgenach na channoedd ereill o'i gyd—efrydwyr; gweithiodd yn ffyddlawn ar y gwaith osodwyd iddo, ond nid oedd hyd eto wedi darganfod prif waith ei fywyd.
Pan adawodd y Coleg yn 1900, ar ol bod yn athraw am beth amser yn Ysgol Sir Pwllheli, aeth i Resolven, lle bu yn cyfrannu addysg yn y Pupil Teachers' Centre am ryw dair blynedd. Yn 1905 symudodd i Abergwaun, sir Benfro, i fod yn athraw yn yr Ysgol Sir, ac yno arhosodd hyd 1908. Nid oedd hyd eto wedi clywed llais llenyddiaeth ei wlad yn galw arno, ond y mae yn eglur mai nid oherwydd unrhyw ddiofalwch nac esgeulustra o'i eiddo ef yr oedd hynny. Cadwodd ei ddyddordeb mewn llenyddiaeth Saesneg yn ddidor, ac fel canlyniad i'w efrydiaeth yn Abergwaun enillodd y radd M.A. yn yr iaith honno ym Mhrifysgol ei wlad. Ni chyfyngodd ei egnion yno chwaith i'w efrydiau a'r ysgol. Dechreuodd gymeryd dyddordeb mewn Freemasonry—yr oedd gan bethau cyfrin swyn neilltuol iddo yn wastad. Llwyddodd, gydag ereill o'r unrhyw chwaeth ag ef ei hun, i sylfaenu yn y dref honno gyfrinfa o'r brodyr hyn, ac anrhydeddwyd ef ganddynt trwy ei osod yng nghadair Meistr y Gymdeithas. Bu hefyd yn weithgar iawn gyda'r Milwyr Gwirfoddol y Volunteers—a gwasanaethodd am beth amser fel swyddog yn eu plith.
Beth bynnag, nid oedd y pethau hyn ond megis arwyddion o'r ynni cynhenid oedd ynddo a'i anesmwythder meddyliol. Yr oedd wedi casglu llawer o wybodaeth. ac wedi myfyrio yn ddibaid, ond nid oedd hyd yn hyn wedi cael gweledigaeth eglur ar unrhyw amcan neilltuol i'w fywyd. Yr oedd yr allor wedi ei hadeiladu a'r coed wedi eu casglu: ond pa le yr oedd y tân? Tua'r adeg hyn debygwn daeth yr alwad ag oedd ei enaid yn ddiarwybod iddo ef yn dyheu am dani, ac edrydd golygydd CYMRU yr hanes yn rhifyn Tachwedd. Dihunodd ei ysbryd i weled ceinder gwerth llenyddiaeth a hanes ei wlad, a chyneuwyd tân yn ei fynwes i fynegu'r datguddiad a gafodd, a llosgodd yn eirias hyd ddiwedd ei oes. Teithiodd, llafuriodd, dioddefodd er mwyn ennill gwybodaeth, a'r oll er mwyn gallu cyfrannu i'w genedl a "chodi'r hen wlad yn ei hol." Gadawodd ysgol Abergwaun er mwyn cysegru ei hunan i wneud ymchwiliadau mwy trwyadl yn hanes a llenyddiaeth Cymru, ac i'r perwyl hynny cyfeiriodd ei gamrau i Baris. Ym Mhrifysgol Paris ac yn rhai o lyfrgelloedd y brifddinas y mae toraeth o hen ysgrifeniadau yn dal perthynas â Chymru, a rhaid dwyn y rhai hyn i'r golwg cyn y gellir deall yn iawn lawer tro yn ein hanes. Dyma'r gwaith y cysegrodd Thomas Matthews ei hun iddo, a bu wrthi yn ddyfal am fisoedd lawer. Tra yn aros ym Mharis daeth i adnabyddiaeth agos a'r cylch diwylliedig o Lydawiaid oedd yn preswylio yno, a bu eu cyfeillgarwch yn gefnogaeth werthfawr iddo. Yr oedd y cylch hwn o gyfeillion wedi eu meddiannu gan yr ysbryd cenhedlaethol, ac yn weithwyr diflino dros les— iant eu talaeth. Ynddynt cafodd Matthews gynhorthwy gyda'i efrydiau Celtaidd, a chalonnau o'r un natur ag ef ei hun, ac enillodd yn eu plith gyfeillion twym—galon, y rhai a'i dilynodd hyd ei fedd. Ar ei ddychweliad i Gymru cyhoeddodd ffrwyth ei lafur mewn llyfr sylweddol yn dwyn y teitl "Welsh Recordsin Paris."
Y mae gwaith arloewsyr—pioneers—— yn wastad yn agored i feirniadaeth lem gan rai a eisteddant yn gysurus ar eu haelwydydd gartref, a dilys gennym fod rhai pethau yn y llyfr hwn heb fod uwchlaw beirniadaeth. Tebyg ei fod yn dangos llaw y prentis yn rhy eglur, ond cofier mai ei brentiswaith oedd, a dylid ei werthfawrogi am y gwaith da sydd ynddo, gwaith ym marn un sydd yn alluog i farnu, nas gall yr un efrydydd o hanes Cymru ei adael heb ei chwilio." Diau y buasai yn well, er mwyn clod yr awdwr, pe buasai yn cymryd mwy o amser ym mharatoad ei lyfrau a'i erthyglau, ond nid ei les ei hun, na'i glod ei hun, oedd mewn golwg ganddo, ond lles ei genedl, ac mor fuan ag yr enillai unrhyw ysglyfaeth byddai am rannu'r ysbail gyda'i frodyr.
Y mae yn debyg mai tua'r adeg hon y dechreuodd deimlo dyddordeb neilltuol yn y celfau cain, a naturiol i ni yw meddwl