mai wrth gerdded trwy blasau y Louvre. a'r Luxembourg ym Mharis, ac wrth syllu ar ysblanderau eu cyfoeth cain, y dihunodd ei enaid i weled byd newydd eto. Pa fodd bynnag am hynny, cawn ef yn fuan ar ol cyhoeddi ei lyfr ar y "Records" yn cyfeirio ei gamrau tua Rhufain. Rhyfedd y fath gyfaredd sydd yn yr enw Rhufain i efrydydd hanes a'r celfau cain! Hi fu yn ffynhonnell cyfraith a gwareiddiad i Orllewin Ewrop, ac ynddi hi y mae eto y drysorfa fwyaf cyfoethog o bob math o bethau cain. Ati hi ynte atdynnwyd Thomas Matthews i dorri ei syched am wybodaeth. Pa fodd y cafodd ddigon. i dalu ei dreuliau yno nis gwn, canys nid gŵr cyfoethog oedd. Ond yn anaml y mae diffyg golud wedi lluddias un sydd a'i fryd ar wybodaeth. Yn wir cofus gennym i Syr William Osler, y meddyg enwog, ddweyd yn ddiweddar wrth nifer o efrydwyr meddygol mai y prif anghenrhaid i lwyddiant yn eu galwedigaeth hwy oedd tlodi. Y cymorth hwn oedd wrth law Matthews, ac os oedd bwrdd ei lety wedi ei hulio yn brin, cafodd wledd o basgedigion breision a gloew-win puredig yn y Fatican, y Museums ac eglwysi dirifedi Rhufain. Ymddengys iddo gael llythyr cymeradwyaeth at awdurdodau llyfrgell y Fatican oddiwrth y diweddar Esgob Hedley o Gaerdydd, ac i'r llythyr fod o help mawr iddo yn ei ymchwiliadau, gan iddo agoryd llawer drws i Tom Matthews, y rhai hebddo fuasai yn gaead yn ei erbyn am byth.
Yn Rhufain daeth hefyd ar draws gweithiau John Gibson, Penry Williams, ac ereill o Gymru, a thaniwyd ei enaid ag awydd am wneud eu gorchestion ym myd y cain yn adnabyddus i'w gydwladwyr. Bu yn ffodus iawn i ddod o hyd i hunan-fywgraffiad John Gibson, yr hwn a ysgrifennodd mewn ffordd o lythyrau at gyfeilles iddo yng Nghymru, Mrs. Sandbach, o Hafod-un-nos, a chyhoeddodd ef gydag ychwanegiadau o eiddo ei hun mewn cyfrol ddestlus wedi ei harddu ddarluniau o gerfluniau Gibson. Cyfrol ydyw o waith gonest a galluog, ac o berthynas i'w defnyddioldeb nis gall fod dau feddwl. Bydd hanes y bachgen tlawd o Gonwy yn ymdrechu yn nerth ei athrylith yn erbyn byd o rwystrau, ac yn cyrraedd yr enwogrwydd uchaf trwy diwydrwydd dihafal bron, yn ysbrydiaeth ac yn gymorth i'r oesau a ddaw. Dichon i efrydiau Mr. Matthews ynglyn a'r celfau cain yn Rhufain roi gogwyddiad penderfynol i'w feddwl, oherwydd o hynny ymlaen cawn ef yn rhoi mwy a mwy o'i sylw iddynt, er na adawodd feusydd llenyddiaeth bur yn hollol. Ei brif amcan yn awr oedd llanw'r bwlch mawr ag sydd yn ein llenyddiaeth Gymreig trwy ddwyn i'r golwg gynhyrchion Cymry y rhai oeddynt hyd yn hyn ynghudd, ac i greu yn ein plith fwy o ddyddordeb yn y cain fel datguddiad o natur a gwell deall am ei werth. Ond yn anffodus rhaid oedd iddo dalu'r deyrnged a ofynnir gan Rufain oddiwrth y dieithr ddyn a fyddo o fewn ei phyrth: ymosodwyd arno gan y malaria, ac er iddo gael adferiad digonol oddiwrtho i fod yn alluog i ddychwelyd gartref, dioddefodd oddiwrth ei effeithiau tra fu byw. Ond nid oedd yn bosibl atal ei weithgarwch, ac er na chafodd iechyd cryf ymroddodd â'i holl egni i efrydu ac ysgrifennu. Yn 1911 apwyntiwyd ef yn athraw mewn Cymraeg yn Ysgol Lewis, Pengam, a bu yn y swydd hyd ei farwolaeth. Taflodd ei hunan i'w waith gyda'r brwdfrydedd mwyaf, a buan y gwelwyd ol ei lafur yn y dyddordeb gynhyrchwyd yn ei ddisgyblion. Ond nid oedd yn foddlon ar wneud gwaith ynglŷn a'i ddosbarthiadau yn unig: rhedodd ei weithgarwch i bob cyfeiriad. Y gwir yw iddo yn y blynyddoedd olaf or-weithio, fel pe buasai yn ymwybodol mai byrr fyddai ei hoedl ar y ddaear, a bod yn rhaid iddo wneud y gore o honi. Ond nis gadawodd i'r gorchwyliou hyn i ymyrryd mewn modd yn y byd a'i ddyledswyddau fel athraw: ni fu neb yn fwy cydwybodol nag ef yn ei waith yn yr ysgol. Dygodd i'w waith brif anghenraid athraw efallai, sef cariad ato ac at ei ddisgyblion. Enynnodd sel ynddynt tuag at iaith a llenyddiaeth eu gwlad, a chefnogodd hwynt i gynhyrchu gwaith eu hunain, ac yn enwedig i roi gwerth ar draddodiadau eu tadau a'r llên gwerin oedd yn eu mysg. Dan ei ysbrydiaeth ef casglwyd toreth o'r defnyddiau hyn, a chyhoeddwyd detholiad o honynt mewn llyfryn bychan yn dwyn yr enw "Llên Ġwerin Blaenau Rhymni." Argraffwyd mil o gopiau a gwerthwyd yr oll yn fuan. Gwnaeth gasgliad hefyd o Farddoniaeth ar gyfer Ysgol Lewis, Pengam," gan roi ynddo nid yn unig enghreifftiau o weithiau beirdd enwocaf ein hiaith, ond hefyd ddetholiad o weithiau beirdd y gymydogaeth, er mwyn creu yn y bechgyn edmygedd at eiddo eu hardal eu hunain. Ar ben y rhestr safai Islwyn bid sicr, ond cymer Ossian Gwent, Twynog, Ieuan ab Iago, Ogwy, ac ereill, le anrhydeddus hefyd. Bu yn weithgar