iawn gydag Eisteddfod yr Ysgol, ac efe fu meistr cyntaf y Boy Scouts. Dan ei ofal ef buont yn gwersyllu yn Nyfnaint un flwyddyn, a blwyddyn arall ym Mhorth y Gest gerllaw Porthmadog. Yn ychwanegol at hyn oll yr oedd o hyd yn brysur gyda'i waith llenyddol; ysgrifennai yn ddidor i'r cylchgronau ar weithiau Penry Williams a Chymry medrus ereill yn y celf a'r cain. Dyfnhawyd yn ei feddwl yr argyhoeddiad am werth y cain i ddyrchafu a choethi dyn, a daeth i gredu fod rhyw gysylltiad hanfodol rhyngddo â chrefydd, ac fel canlyniad i'w argyhoeddiad lliwir ei ysgrifeniadau diweddaraf â'r elfen gyfrin sydd i'w chael ar ffiniau y gororau hyn.
Yr elfen grefyddol ag sydd yn rhedeg fel gwythien euraidd trwy holl waith Islwyn barodd i'r bardd nefolaidd hwnnw gael y fath ddylanwad ar feddwl a bywyd gwrthddrych yr ysgrif hon, a'r un elfen yn ddiau a'i swynodd yng ngwaith Sion Cent. Tybiai fod neges neilltuol gan Sion Cent atom ni, a thrwy hynawsedd. golygydd "Cyfres y Fil" paratodd argraffiad rhad o'i waith.
Beirniadwyd y gyfrol hon dipyn yn llym, ac eto efallai nid yn anghyfiawn. Fel y dywedwyd o'r blaen, pe buasai Mr. Matthews yn meddwl mwy am ei glod ei hun, buasai oedi yn hwy, cyn cyhoeddi y gyfrol, ond teimlai mai gwell oedd i'r bardd ymddangos mewn gwisg dipyn yn annhrefnus am ychydig amser nag aros yn hwy dan len. Ceir amser eto i'r ysgolheigion i drwsio tipyn ar ei ddiwyg; ei waith ef oedd poblogeiddio y cewri fu, a dichon ei fod yn ei frys weithiau yn ymgymeryd a thasg heb yr adnoddau angenrheidiol; ond yr oedd bod yn ddefnyddiol yn fwy gwerthfawr yn ei olwg na dilyn y llythyren yn rhy fanwl.
Yn ystod ei flwyddyn olaf paratodd i'r wasg gasgliad arall o'r defnyddiau grynhowyd gan ei ddisgyblion, ac yn ei wendid daliodd ati i fynych gywiro y prawfleni ar ei wely, a rhyw fis cyn ei ddiwedd cyhoeddwyd y llyfryn dan yr enw "Dail y Gwanwyn." Yn ystod y misoedd hyn hefyd ysgrifennodd dros Undeb y Cymdeithasau Cymreig lyfr dan Perthynas y Cain â'r Ysgol." Yn hwn apelia am roi ei le priodol i'r cain yn addysg ein plant. Torrodd dir hollol newydd i lawer yn hwn, a dylai'r llyfr fod yn nwylaw pob athraw, pob swyddog a phob aelod o awdurdodau addysg yng Nghymru. Cynhwysir ynddo mae'n wir gyhuddiadau lled lym yn erbyn Philistiaeth ein addysgyddiaethyddion, ond ceir ynddo hefyd bethau gwir bwysig, a haeddant sylw difrifol pob un ag sydd yn ymwneud ag addysg y to sydd yn codi.
Dyma ei ymdrech olaf yr oedd ei nerth yn cyflym ballu, a rhaid oedd rhoi o'r neilltu ei ysgrifbin prysur. Ond hyd y diwedd yr oedd yn llawn cynlluniau am waith, ac yn llawn gobaith am wellhad o'i glefyd, ond er pob gofal a'r tynerwch tirionaf o eiddo mam a chwaer bu farw yn dawel yn ei gwsg ar chweched o fis Medi diweddaf pan ond 42 mlwydd oed. Hebryngwyd ei gorff i'w hir gartref ym mynwent hen eglwys Llandybie gan lu o'i garedigion ar y Llun canlynol.
Fel awdwr ysgrifennodd ormod efallai nid oedd yn or-ofalus am ieithwedd, a maentumia y beirniaid manwl fod ei arddull yn gymysgedd o wahanol gyfnodau. Nid ydym yn gofalu am ateb iddynt yn y peth hyn. Ond os y style yw y dyn, fel y dywed Buffon, canfyddir yn eglur yn ieithwedd Mr. Matthews ei galon dwym, ei gariad gwresog, ie llosgedig tuag at ei Gymru, ei sel tanbaid tros foes ac addysg, a'i awydd angerddol am ddyrchafiad ei genedl. Gan fod ei efrydiau gymaint yn awduron y canol oesau naturiol oedd iddo bron yn ddiarwybod iddo ei hun godi geiriau a brawddegau oddiwrthynt a'u cymhlethu â Chymraeg sir Gaerfyrddin y dyddiau hyn y peth mawr iddo ef oedd cael y geiriau a'r gystrawen mwyaf cyfaddas i osod allan ei feddwl. Yr oedd ei lygad yn edrych YMLAEN at y dyfodol gwych oedd i ddod,—fel y canodd Twynog,—
"Y wawr, y wawr anwylaf
Sy'n dyfod cyn bo hir,
A diluw o brydferthwch
I dorri dros y tir."
Ond yr oedd hefyd yn edrych yn ol er mwyn cael y nerth a'r ysbrydiaeth angenrheidiol tuag at sylweddoliad ei obeithion. Fel y dywed yr areithiwr Groegaidd,"Dylai cenhedloedd. fel dynion, ymdrechu yn wastad i lunio eu dyfodol wrth eu gorchestion ardderchocaf yn y gorffennol." Oddiwrth y dyddiau fu y tynnodd ас y maethodd Mr. Matthews ei fywyd, ac nid yw yn syndod yn y byd fod ol hynny ar ei waith. Rhaid cyffesu, er hynny, ei fod wedi anturio yn awr ac yn y man y tuhwnt i'w alluoedd, fel nofiwr ieuanc yn anturio i ddyfnder môr, eto dylem gofio fod "delfrydwyr heb eithriad," yn ol dywediad awdwr diweddar, wedi eu cyn-