Y mwyaf peth i mi o'i holl freuddwydion oedd ei gynllun i godi math o byramid. er cof am ryw arwr, neu ryw adeg neillduol yn hanes cenedl; a hynny i addurno rhyw le yn taro—yn ymyl athrofa—pen bryn, neu le cyffelyb. Yr oedd y sylfaen i fod o wenithfaen du a'r adeilad o wenithfaen coch. Yna ar bob congl byddai Sffines aruthrol fawr, ond yn gweddu i'r pyramid, a byddai hwn fel y sylfaen o wenithfaen du ac wedi ei lyfnu. Byddai'r maen hwn yn taro damcaniaeth y cerflun hwn yn well na dim arall. O Sffines i Sffincs o gwmpas y pyramid, byddai cerfluniau efydd yn darlunio chwaethau a theimladau isaf dyn—sylweddoliad fel personau o brofedigaethau a themtasiynau dyn ar ei lwybr i fyny tua'r Ddinas Wen. Yna, ar ben y pyramid, yr hwn na fyddai'n bigfain, byddai sylweddoliad delfrydol o'r rhinweddau a'r grasusau hynny gyfyd ddyn i fyny o'r isel ac a'u gwnant yn oruwch—ddyn, hafal i'r engyl, ac yn unol ag y mae efe wedi trwytho a meithrin y doniau roddodd Duw iddo, ac o'r teimladau isaf, mae'r uchaf wedi datblygu. Megis cariad o chwant; megis doethineb o gyfrwysdra. Hwyrach fod y naill yn wrthgyferbyniad i'r llall—ond yr oedd datblygiad yno hefyd. Byddai alegoriau ar y pyramid hefyd i geisio gwneud i ddyn feddwl yn fwy beth oedd ac ydyw llwybr dyrchafiad dyn.
Wyt ti'n gweld, yr wyf wedi PROFI cymaint yr wyf wedi gweld y da a'r drwg yn gyfagos gymhleth a'u gilydd—ac oddiwrth hynyna daeth yr awdl hon i'm meddwl. Efallai, pe buaswn wedi aros gartref, y buaswn wedi ceisio barddoni am y weledigaeth hon yn awr yr wyf yn ceisio rhoi'r awdl neu'r bryddest hon mewn gwahanol ysgrifen mewn maеn ac efydd. Pan yn Rhufain prynais waith Dante, ac ambell waith meddyliaf mai efe a'm hysbrydolodd i wneuthur y cerfluniau hyn. Ond rwi yn darllen ein beirdd ni o hyd. Y mae mwy ynddynt i mi nag a gaf yng ngwaith neb arall ond Dante.
Yr oedd yn gweithio darn ar ol darn o'r cynllun fel byddai'r "Goruchaf yn ei symbylu." Gan fod dau amcan ganddo— un i ddeffro dyn i weld y gwael a'r drwg, y cain a'r tlws fel ag yr oeddent—yna byddai'n sicr o edrych tuhwnt, at y pethau ddylai fod, a thrwy hynny ym estyn atynt. Dylai fod dynion yma, fel
"Meibion Nef yn cyd—lefain
A'i gilydd mewn cywydd gain,"—
"Perffaith yw Dy waith, Duw Iôn,
Dethol dy ffyrdd a doethion,
A mad ac anchwiliadwy,
Dduw mawr, ac ni fu ddim mwy."
Felly nid oedd trefn amser ar ddim; ond pan ddeuai'r symbyliad, gweithiai ei ddychymyg allan yn y clai ar unwaith, ac yn ddioed. Ambell waith deuai ato yn yr hwyr, ac nid ai i'r gwely nes byddai wedi gorffen. Yn fynych iawn byddai wrth rywbeth drwy gydol y nos ac hyd y nos ganlynol, heb wybod dim am amser na dim arall hyd nes gorffenai.
Un o'r cerfluniau cyntaf oedd "Llef Tlodi." Yr oedd wedi bod am dro hyd strydoedd Philadelphia ym mrig hwyrnos, a gwelodd ddynes garpiog, deneu, ac un bychan yn ei chôl, yn ceisio sugno ei bron sych. Yr oedd fel scwrrwd,' meddai, 'a phlentyn arall yn llusgo wrth ei dillad mor garpiog a hithau. Ni welais i ddim tebyg cynt na chwedyn.' Ac yr oeddent yn y stryd lle trigai dynion cyfoethoca'r dref. O'u cwmpas glwthineb a gwastraff—"dynion" yn afradu mewn byrnos ar gŵn mwy nag oedd eisieu i gyflenwi angen y rhain am fis. Rhoddodd iddynt gymaint ag oedd ganddo— cerddodd gartref, gweithiodd ar hwn—gorffennodd ef bore trannoeth. Mae yn fy nghof yn awr. Nis gallaf gael hwn na "Paham ?" Christopher Williams o'm cof o gwbl. Os meddyliaf am gynni ac angen y tlawd—a minnau wrth fy hun, neu beidio, yna cyfyd y llun "Paham?" o flaen fy llygaid—yna daw hwn, "Llef Tlodio flaen fy llygaid, fel ag y gwelais ef gyntaf. Dyma fenyw deneu fel scwrrwd ac Angeu a'i nod arni; y mae drudaniaeth yn ei dirdynnu hi a'i phlant. Y mae gwan—obaith yn ysgrifenedig ar ei hwynepryd cynifer gwaith gofynnodd am gardod yn enw'r Iesu yn ddi—ateb! Y mae'r bychan yn sugno'r fron ddi—obaith sych. Dyma hwy, fel pe baent yn codi o'r clai—felly hefyd llef y tlawd a'r anghenus,—o laid y byd—i fyny am gyfiawnder gerbron y Goruchaf. Efe a glyw eu llef os na wnawn ni. Rhyfedd, mae'n waeth yn nhrefydd mawrion America nag yw yma," meddai. Wyt ti'n cofio geiriau Dewi Wyn?—
Noswylio yn iselaidd,
A'i mynwes yn bres oer braidd.
Ba helynt gael ei phlant cu
Oll agos a llewygu?"
Yna ceisiodd ddangos Lusiffer—ond nid yn ol yr hen ddychymyg. Yna