Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/11

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bob angen cyhoeddus a chymdeithasol oedd ar Gymru yn ei ddydd, fel y dengys ei areithiau a'i ysgrifau, a gyhoeddwyd gan ei weddw yn 1912. Aeth i mewn i wleidyddiaeth yng ngwres ei weledigaeth ieuanc a hael, ac ni ddifwynwyd ei ysbryd gan y pethau salw y mae cymaint o wleidyddion yn eu gwneuthur er mwyn ennill safle, a'i gadw ar ôl ei ennill. Yng ngrym ei allu a'i gymeriad, daeth i un o'r swyddi pwysicaf ac anhawddaf yn y Senedd, a gwnaeth ei waith yn y fath fodd fel nad oedd gan hyd yn oed ei wrthwynebwyr gwleidyddol ond y gair uchaf i'w ddywedyd am dano—ac fe'i dywedasant. Eto, ni chafwyd erioed mono yn esgeuluso dim a ystyriai ef yn ddyledswydd, nag yn llefaru â deilen ar ei dafod. Gweithiodd yn galed, llwyddiannus,—a glân. Un o'r pethau pennaf a darawai bawb a'i hadnabu ydoedd ei anrhydedd perffaith. Llosgodd llawer ffydd allan, ac ymfaluriodd ambell eilun yn lludw, er y dyddiau y dewiswyd Mr.