Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/12

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ellis yn Seneddwr, fel mai poen yw cofio'r ffydd a diflastod yw meddwl am yr eilun, bellach, ond ni ddug y blynyddoedd ddim a'i syflodd nag a'i llychwinodd ef. Cadwodd holl uniondeb hael ei weledigaeth i'r diwedd. Am hynny y bydd ef byth yn un y dylai pob Cymro a Chymraes wybod ei hanes.

Y mae'n ddiau gennyf y bydd traethawd Mr. Owain yn foddion i drosglwyddo i'r rhai na chawsant y fraint o weled na chlywed Mr. Ellis beth o'r dylanwad hygar a gaffai ef mor helaeth ar y rhai sy'n ei gofio.

T. Gwynn Jones