Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/18

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

TOM ELLIS

PENNOD I

TREM AR EI FYWYD

"Troaist dy glust at wirionedd Nef
Yn aiddgar dy wedd,"

Meddai y diweddar Ben Bowen am un o'i gyfeillion hoff. Gyda phriodoldeb y gallwn gymhwyso yr un gwirionedd at y diweddar a'r annwyl Tom Ellis. Hyn a wna diwygwyr a phroffwydi pob oes. Cyfryngau fel hyn a ddefnyddia Duw i wareiddio'r byd a diwygio cymdeithas. Y mae goreu pob gwlad wedi tyfu o dan gysgod y cymeriadau cryfaf a llawnaf;