Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/19

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cymeriadau a llawer o'r Dwyfol ynddynt; cymeriadau ag sydd yn cadw haul gogoniant aml i wlad rhag machludo, a chysgod ei dylanwad rhag diflannu.

Rhed meddyliau pob oes yn naturiol i gyfeiriad yr arwr, ac ni raid i ni synnu at hynny, oherwydd yr arwr sydd yn cadw gogoniant gwlad ac anrhydedd cenedl i fyny. Yr arwr sydd yn arwain gwledydd o gaethiwed i ryddid—yn torri cadwyni celyd caethiwed ac yn gollwng y carcharorion yn rhydd. Llifa dylanwad bywyd yr arwr i diriogaethau yr oesau a ddilyn, ac i fywyd cenhedloedd eraill. Rhydd dân yn enaid ei ddilynwyr i ymladd dros yr egwyddorion oedd yn argyhoeddiad iddo ef; trosglwydda asbri o'r newydd, a rhydd fflam na ddiffoddir mohoni hyd nes y daw y breuddwydion yn ffaith ym mywyd yr oesau.

"Lives of great men all remind us,
We can make our lives sublime,"


meddai Longfellow.