Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/20

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Goreuon gwlad sydd yn gwresogi ei gwladgarwch; grymuso ei gwleidyddiaeth; dyrchafu ei moes; effeithioli ei chrefydd, ac yn eangu dylanwad ei haddysg. Y mae gan bob gwlad ei charedigion; y mae gan bob cenedl rai yn caru eu gwlad yn fwy na hwy eu hunain-rhai yn aberthu eu bywyd drosti mewn gwasanaeth. Nid yw hunanoldeb yn ennill gorsedd yng nghalon cenedl, y mae hunanaberth. Dyn mawr yn unig a all roi ei fywyd dros ei wlad, a'r arwr yn unig a all greu llinell a chylch iddo'i hun. Un o'r cyfryw oedd Tom Ellis; yr oedd ef yn fwy na Chymru, a rhoddodd fri arni. Ni ddyrchafwyd ac ni anrhydeddwyd Tom Ellis yn y Senedd oherwydd ei fod yn dod o Gymru, ond dyrchafwyd ac anrhydeddwyd Cymru yn y Senedd drwy Tom Ellis.

Magwyd ef ar aelwyd wedi ei heneinio ag adnodau ac emynau Cymreig; aelwyd wedi ei chrefyddoli yn swn yr Ysgol Sul a son am Ddiwygiadau. Cartref y Diwygiadau oedd ei fro enedigol, ac