Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/23

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Syml oedd ei gartref—digon syml i fagu arwr. O leoedd syml y mae Duw yn codi cymwynaswyr i wledydd. Yr oedd ef yn «arwr gwirionedd a chadfridog rhyddid. Yr oedd gormes a thrais y bendefigaeth yng Nghymru wedi gwasgu ein cenedl mor isel fel mai lleddf a chwynfanus oedd cerddi ei gwerin, ond bu Tom Ellis yn gyfrwng i drawsgyweirio eu cân o'r lleddf i'r llon.

Mab ydoedd i Thomas Ellis, Cynlas, ac Elizabeth, merch John Williams, Llwyn Mawr, Bala. Ganwyd ein gwrthrych ar yr unfed ar bymtheg o Chwefror, 1859, pan oedd y sir ynghanol terfysg gwleidyddol mawr, pan oedd y Rhyddfrydwr pybyr Mr. David Williams, Castell Deudraeth, yn ceisio diorseddu Ceidwadaeth oddiar sedd Meirion. Prin fod yr un Rhyddfrydwr ym Meirion wedi breuddwydio y dydd hwn fod un a gychwynai gyfnod newydd yn hanes Rhyddfrydiaeth y sir wedi ei eni yno.