Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/24

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tua'r adeg y ganwyd ein gwrthrych bu raid i lu o Ryddfrydwyr Meirion a ymlynai wrth eu hegwyddorion fyned drwy beiriau poethion, ac yn eu plith rai o'i hynafiaid yntau. Rhoed dewis iddynt o ddau beth,—'gwerthu' eu hegwyddorion a mwynhau rhyddid, ynte ymlynu wrth eu hegwyddorion a bod yn wrthrychau trais a gormes. Dewisodd y dewrion hyn yr olaf, a son am yr erledigaethau hyn oedd un o'r pethau cyntaf a ddisgynnodd ar glust ein harwr. Deffrowyd rhywbeth o'r tu mewn iddo yr adeg hon na olchwyd mohono i ffwrdd gan stormydd amser.

Tyfodd i fyny yn naturiol, gyda cheinder, gwylltedd, swyn, a rhamantedd natur o'i gwmpas ymhobman. Yr oedd y cyff y tarddodd ohono yn sylfaen dda iddo, ynghyda mireinder Anian yn amgylchedd dymunol iddo dyfu i fyny. Cafodd ei galon ieuanc ac iraidd ei mwydo yn swn gweddiau taer a syml yr aelwyd, a chafodd yr Ysgol Sul a'r Cyfarfod Gweddi yn ganllawiau i'w gychwyn ar