Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/26

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

daith bywyd. Daeth yn seren yn yr Ysgol Sul ac nid oedd ei bertiach am ddweyd adnod yn y Seiat. Derbyniodd ei addysg elfennol yn Ysgol Frytanaidd Llan Dderfel, a thlws y disgrifir y cyfnod hwn gan Iolo Caernarfon :—

"I ysgol fach Llan Dderfel dros y bryn,
Yn gyson elai yn ei febyd pêr,—
Yn siriol yn y boreu fel y wawr,
Gan ddychwel adref yn yr hwyr yn llawn
O hyder tawel, fel prynhawn o Fai."

Yr oedd yr ysgol fechan hon ddwy filltir o bellter o'i gartref, a cherddai iddi yn ol ac ymlaen bob dydd. Dywedir na chollodd ddiwrnod erioed o'i ysgol. Danghosodd yr adeg hon ewyllys gref a phenderfyniad di-ildio, a pharhaodd y nodwedd ynddo ar hyd ei fywyd.

Aeth o'r ysgol hon i'r Bala, ac oddi-yno i Aberystwyth, a bu ei arhosiad yn y naill fan a'r llall yn llwyddiant perffaith. Yfodd o'r ysbryd oedd yn y naill a'r llall. Dyfnhawyd ei argyhoeddiadau