Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/27

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ynddynt, a grymuswyd ei benderfyniad. Yr oedd ei gamre yn yr Ysgolion a'r Colegau yn brawf amlwg fod y Nefoedd wedi bwriadu iddo fod yn arweinydd a thywysog i'w genedl. O Aberystwyth aeth i New College, Rhydychen, lle y cafodd radd B.A. gydag anrhydedd mewn clasuron a hanes. Tra yn Rhydychen bu yn Llywydd yr Union, ac yn Ysgrifennydd y Palmerston Club.

Cwblhaodd ei gwrs addysg tua diwedd 1884, a'r cam nesaf yn ei hanes ydyw myned yn athraw preifat i Pentwyn, Castleton, ger Caerdydd, at deulu Mr. Cory. Tra yr arhosai yn y lle hwn amlwg oedd ei fod a'i fryd ar binacl, a gwasanaethu ei wlad oedd hynny. Symudodd oddiwrth y teulu uchod i fod yn ysgrifennydd i Syr J. T. Brunner, ac enillodd brofiad newydd yn y cyfeiriad hwn.

Yn 1886 dewiswyd ef yn aelod Rhyddfrydol dros Sir Feirionnydd, ond cawn fanylu ar y frwydr a'r fuddugoliaeth yn y