Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/28

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bennod arno fel " Gwladgarwr a Gwleidydd " ymhellach ymlaen.

Dydd pwysig yn ei hanes fu y 1af o Fehefin, 1898, sef, dydd ei briodas â Miss A. J. Davies, merch y diweddar R. J. Davies, Ysw., Cwrt Mawr, a chwaer J. H. Davies, Ysw., M.A., Aberystwyth. Cafodd ymgeledd gymwys, gan i'w briod fod yn dyner a gofalus o honno, ac yr oedd yn gu yn ei golwg. Ymhen ychydig fisoedd ar ol iddynt briodi tarawyd ef yn wael.

Blwyddyn ddu yn hanes Cymru ydyw 1899, gan mai dyma'r flwyddyn y bu farw ein gwrthrych. Yr oedd wedi gweithio yn rhy galed dros ei wlad—aeth yr ysbryd yn drech na'r corff, a dadfeiliodd y babell. Aeth ef a'i briod drosodd i Ffrainc gan fwriadu myned am daith i lannau Môr y Canoldir. Sylwodd ei ffryndiau ei fod yn llesgau, ac un diwrnod—diwmod mawr i Gymru—daeth y newydd prudd am ei farw, a pharodd alar cyffredinol.