Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/32

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tân oedd ei wladgarwch ef i buro, nid i ddifa—tân i wella ei wlad, nid i'w gwneud yn anghyfanedd. Ni ddiystyrodd ef ei genedl ei hun er mwyn ennill parch cenhedloedd ereill; yn hytrach, enillodd ef barch cenhedloedd ereill drwy gadw'n bur i'w genedl ei hun. Bu'n ffyddlon i'w wlad; ymlynodd wrth bobpeth da a berthynai iddi. Nid cyflawni daioni a gorchestion dros ei wlad yr oedd ef er mwyn cael ei weled a'i glodfori, ond i hyrwyddo a dyrchafu ei wlad. Gwelodd ei gyfle i ddeffro Cymru, a chymerodd afael ynddo. Nid allasai neb ond un a garai ei wlad yn angerddol gyflawni y gwaith a wnaeth ef dros Gymru yn Nhy'r Cyffredin. Nid oedd poblogrwydd personol, cysur cymdeithasol, nag hyd yn oed ei iechyd, ond pethau eilradd yn ei olwg. Yr oedd ef yn teimlo ei fod yn rhan o Gymru mor wirioneddol ag ydyw ei bryniau a'i hafonydd. Cynheuai y fflam wladgarol yn ei fynwes yr un mor wresog pan yn Chwip y Rhyddfrydwyr