Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/33

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn Senedd-dy Prydain Fawr, a phan rodiai ymysg gwerinwyr cyffredin bro ei enedigaeth. Bu fyw i anghenion Cymru —ei thir a'i pobl.

Un o blant y Deffroad Cenhedlaethol oedd, ac yr oedd digon o wladgarwch yn ei galon i fyned yn aberth dros ei wlad; nid ofnai un amser ddweyd llinell Ceiriog,

"Mab y mynydd ydwyf finnau."

Byddai yr un mor hapus yn nhy gwerinwyr cyffredin ardal ei enedigaeth a phan ynghanol moethau palas y pendefig. Cynrychiolai ddyheadau llawnaf ei genedl, ac yr oedd ei wladgarwch gyfled a Chymru ei hunan. Ymladdodd dros ei wlad pan oedd ei iechyd yn fregus, a chariodd ei beichiau nes y gwargrymodd o danynt. Gweithiodd drosti pryd y dylasai orffwyso ynddi. Mynnodd i lais Cymru gael ei wrando yn Senedd Prydain Fawr a dihysbyddai ei nerth wrth wneud hynny.