Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/34

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tra y gwargrymai ef o dan y baich yr oedd ei wlad yn cael ei dyrchafu. Enillodd ef galon Cymru a chyfieithodd hi i estroniaid ar lawr Ty'r Cyffredin. Yr oedd ei symudiadau yn llawn urddas a'i galon yn llawn anrhydedd. Ymdrechodd dros werin Cymru a thros ei llenyddiaeth; oherwydd iddo adnabod ei wlad carodd hi. Gwell oedd ganddo wrando ar riddfan gwerin orthrymedig na bod yn swn aur a deimwnt y pendefig moethus.

Danghosodd i estroniaid ac i Senedd Prydain Fawr mai "Cymru Wen " oedd gwlad ei enedigaeth ac nid "Cymru bwdr;" mynnodd ddangos mai "Gwlad y Diwygiadau " oedd ac nid " Gwlad y Dirywiadau." Ni werthodd ei wlad er mwyn ennill poblogrwydd—aberthodd ei boblogrwydd er mwyn ennill ei wlad. Yr oedd yn ddigon o foneddwr i gydnabod gwên a chroeso pendefigion ac urddasolion, ond yr oedd yn ormod o wladgarwr i anghofio gofynion gwerinwyr gwlad ei enedigaeth.