Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/35

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nid rhyfedd hyn ychwaith! Paham? Magwyd ef ynghanol cyfaredd a swyn ei wlad ynghanol golygfeydd Cymreig rhamantus ynghanol arddunedd mirain Meirion dlos a chyfoethog. Bu yn cyniweirio drwy ganol cymeriadau Cymreig pur a gwreiddiol ym moreuddydd bywyd; pigodd eu rhinweddau i fyny a gwisgodd hwy yn addurniadau yn ei fywyd. Mab gwerinwr oedd, a bu hynny yn fantais iddo; amhosibl oedd i'r pendefig Cymreig fynegi cri enaid gwerin orthrymedig oherwydd fod y llais yn ddieithr iddo. Aeth Tom Ellis i'r Senedd yn Gymro, gweithiodd yno fel Cymro; aeth oddiyno yn Gymro, a bu farw fel Cymro.

'Yr oedd ei argyhoeddiad o angen ei wlad wedi torri yn dân gwirioneddol yn ei galon; Gwyddai fod ganddo neges a mynnodd gael ei throsglwyddo. Trosglwyddodd wreichion ei angerddoldeb i ereill nes y maent erbyn heddyw wedi datblygu yn goelcerth a'r tân yn ymledu. Yr oedd yn awyddus am godi moes ac addysg