Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/36

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei wlad yn ogyfuwch a'r mynyddoedd, a throdd pob ffrwd o ddylanwad posibl i'r amcan hwnnw. Yr oedd wedi sugno yn helaeth o ysbryd Cymru Fu, a chychwynodd gyfnod newydd yn 'hanes gwleidyddiaeth ei wlad. Nid hanner Cymro oedd Tom Ellis; na! Cymro twymgalon i'r gwraidd. Yr oedd yr hyn a wnaeth dros ei wlad—ei ymroddiad llwyr, ei wasanaeth eang, a'i aberth dwfn—mor fawr, fel nad â yn anghof am oesau. Bu adeg pryd yr apelid oddiar lwyfannau Cymru— cymdeithasol, eisteddfodol, a gwleidyddol—ar i'r ieuenctid yfed tipyn o ysbryd Gruffydd ab Cynan, Owain Glyndwr, a Llewelyn, ond heddyw anfynych yr enwir y rhai hyn heb enwi TOM ELLIS. Ie, gwladgarwch digon pur oedd ei un ef i'w osod yn esiampl.

"I am often tired in, but never of, my work," meddai Whitfield un adeg, a gallasai'r uchod fod yn brofiad i Tom Ellis fel gwleidydd. Y mae'r nefoedd yn defnyddio personau i fod yn gyfryngau i