Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/37

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gychwyn cyfnod newydd ym mywyd cenedl—cyfnod newydd mewn crefydd, diwinyddiaeth, a gwleidyddiaeth, &c. Unwaith mewn oes neu ganrif yr anrhegir cenedl â diwygiwr, ac un o'r cyfryw oedd Tom Ellis. Bu yn gyfrwng fel gwleidydd i drosglwyddo cri ddolefus gwerin orthrymedig Cymru yn Senedd Prydain Fawr; trwyddo ef y daeth llawer i ddeall fod gan y genedl fechan hon galon wladgarol a chywir, a bod ganddi genadwri at y byd.

Dydd bythgofiadwy oedd y dydd hwnnw yr etholwyd ef i gynrychioli ei Sir enedigol yn Senedd-dy Prydain Fawr. Byth er hynny y mae gwleidyddiaeth ein cenedl wedi codi o ris i ris a'r cadwyni caethiwus yn ymollwng o un i un. Bu Tom Ellis yn ddigon dewr i ddod allan yn erbyn un o urddasolion y Sir, a golygai hynny lawer. Gywir fod gan werin a gweithwyr gwlad hawl i roddi eu pleidlais i'r neb a fynnont, eto, nid oedd gwerin Meirion wedi agor eu llygaid i'r gwirionedd