Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/38

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod yn bosibl i neb ond un o fawrion y Sir eu cynrychioli yn y Senedd. Yr oedd Tom Ellis yn ddigon o wleidydd i hynny ac agorodd lygaid Cymru ar y mater. Danghosodd ffordd newydd i'r Senedd—ffordd oedd yn guddiedig cyn hyn gan ddrain a mieri gwaseiddiwch ac anwybodaeth. Gwedi iddo ef dorri drwy y llen gaddugol a cherdded yn ddewr a di-sigl ar hyd y ffordd newydd, dilynwyd ef gan ereill, megis Herbert Lewis, Ellis Jones Griffith, Lloyd George, William Jones, &c.

Achosodd ei fuddugoliaeth gyntaf syndod a llawenydd! Yr oedd Meirion fel pe wedi ei syfrdanu—prin y gallai goelio! Nid oedd ein gwrthrych ond saith ar hugain oed pan anturiodd i faes y frwydr i groesi cledd â'i elyn ac i ennill buddugoliaeth! "Yr oedd yn fuddugoliaeth hynod ar lawer cyfrif, meddai Dr. Charles Edwards, "ac nid yr hynodrwydd lleiaf ydyw mai efe ydyw y cyntaf erioed i gael ei ethol i'r swydd uchel hon