Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/39

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o blith y tenantiaid." Llwyddodd i gael deuddeg cant a thri ugain a saith o fwyafrif ar ei wrthwynebydd!

Cynhwysai ei raglen wleidyddol gyntaf y testynau a ganlyn yn y drefn a ddilyn :—(1) "Ymreolaeth i'r Iwerddon;" (2) "Datgysylltiad i Gymru;" (3) "Addysg;" (4) "Gwelliantau yn Neddfau y Tir;" (5) "Ymreolaeth i Gymru." Ymhen ychydig amser newidiodd ei raglen, a rhoddodd "Bwnc y Tir" ym mlaenaf ar ei raglen. Ymdrechodd ddwyn cwestiynau pwysig i sylw y Senedd, a chafodd y cwestiynau Cymreig sylw mawr ganddo. Ymladdodd y flwyddyn gyntaf dros gael Adroddiad Addysg Cymru ar wahan. Rhoddodd le amlwg i Addysg yn ei wleidyddiaeth. Cafodd Addysg gymaint o le ganddo ag unrhyw gangen arall, a bu yn aiddgar a di-ildio yn ceisio perffeithio cyfundrefn addysg Cymru. Yn 1888 yr oedd ar y blaen gyda Mesur y Degwm, a hawdd canfod ei fod yn ddraen yn ystlys Toriaeth oherwydd