Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/40

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei ddewrder yn ymladd dros y cwestiynau hyn. Ceisiodd y Toriaid ei ddiorseddu ddwywaith, ond methasant. Yr oedd ei galon fawrfrydig yn llawn o'r delfrydau mwyaf dyrchafol dros ei wlad. Nid fel Cymro unigol yr aeth i'r Senedd, ond fel calon Cymru. Aelod dros Sir Feirionnydd oedd, ond cynrychiolai Gymru. Er mai ber fu ei oes, torrodd lwybr newydd i ieuenctid Cymru : bu ei amcanion gwleidyddol yn gywir, a gadawodd gynysgaeth gyfoethog ar ei ol. Yr oedd yn wleidydd ddigon craff i weled beth oedd yn rhwystr i genedl fach ddatblygu, a gwelodd hefyd beth oedd ei phosibilrwydd ond symud y rhwystrau.

Fel gwleidydd cododd ei lais yn erbyn pob camwri, ac nid ofnodd yr un pendefig nag uchelwr wrth wneud hynny. Yr oedd ei gymeriad yn ei gymell i sefyll dros wirionedd a chyfiawnder, ac i beidio cilio'n ol mewn brwydrau. Llwyddodd oherwydd ei ynni, ei fywiogrwydd, ei benderfyniad, a'i ddiwylliant, i ennill sylw y