Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/41

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

seneddwyr blaenaf. Gwelodd Gladstone fod ynddo ddefnyddiau gwleidydd da; rhoddodd swydd iddo ac ni chafodd le i edifarhau. Cyflawnodd waith aruthrol er byrred a fu ei daith wleidyddol, a bu o wasanaeth amhrisiadwy i'r wladwriaeth. Gwir a ddywedodd Mr. Herbert Lewis ddydd ei angladd,—"Y byddai Ty'r Cyffredin yn wacach ar ol marw Tom Ellis. Meddai ar feiddgarwch y gwleidydd pur, ac ni throai yn ol ar ol cychwyn; astudiodd ei achosion a chredodd hwy, a deallodd beth oedd dyfnder anghenion ei wlad. Dringodd yn uchel a chadwodd ei le ar ol ei ennill. Rhoddodd esboniad newydd i werinwyr Cymru beth, a phwy oedd y gwleidydd i fod. Yr oedd ei gamre mor ofalus, a'i symudiadau mor sicr fel y trodd i fod yn gymwynaswr gwleidyddol gwirioneddol. Ymddyrchafodd mor uchel fel y dywedodd Syr John Brunner—" Ni allaf byth dalu fy nyled i Mr. Tom Ellis." Fel gwleidydd yr oedd yn obeithiol—yn edrych ar yr ochr