Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/42

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oleu a chredu fod dyfodol i'w wlad. Cadwodd ei boblogrwydd fel gwleidydd, ond nid ceisio ei boblogrwydd a wnaeth, ond ei ennill. Daeth yn dywysog yng ngolwg ei genedl yn ddiarwybod iddo'i hun. Aeth ef i'r maes gwleidyddol i weithio nid i segura; nid i sefyll dros egwyddorion ond i frwydro.

Llwyddodd i gael Adroddiad Addysg arbennig i Gymru; ni fu pall ar ei ymdrechion gyda Mesurau Addysg Ganolraddol a'r Rhan-Diroedd, a mynnodd gael Dirprwyaeth i edrych i mewn i Gwestiwn y Tir yng Nghymru. Cerfiodd Tom Ellis ei enw yng nghalon ei wlad fel gwleidydd; oherwydd ei fedr dihafal, ei lwyddiant digyffelyb, a'i ddewrder di-ildio yr oedd llawer yn dychmygu ei fod yn cerdded yn unionsyth i fod yn Brif Weinidog.