Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/43

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD III
YSGOLOR A LLENOR

"Yr hyn ydyw caboli i ddarn o farmor, dyna ydyw addysg i'r enaid dynol."—
Addison.

Gwirionedd a gofleidiodd Tom Ellis pan yn ieuanc iawn oedd nad yw llwyddiant un amser yn dilyn segura, a chredodd fod diwylliant meddyliol yn angenrheidiol tuag at wareiddio a dyrchafu tôn foesol gwerin gwlad. Dysg hanes gwahanol genhedloedd y byd ni fod gan addysg ran amlwg yn eu gwareiddiad a'u datblygiad, ac mai addysg sydd wedi eu gwneud yr hyn ydynt heddyw. " Ni all pwy bynnag a gred mai da yw diwyllio ei feddwl ei hun, adael i eraill barhau mewn anwybodaeth," meddai Spurzheim, ac yr oedd hyn yn argyhoeddiad i Tom Ellis hefyd. Penderfynodd