Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/44

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yfed mor helaeth ag y gallai o wahanol ffynonellau dysg ei hun, ac yr oedd am geisio estyn breintiau addysg mor agos ag oedd yn bosibl i werin Cymru. Gellir dweyd yn ddibetrus ei fod yn ffrynd cywir i addysg, ac er mor drylwyr yr oedd wedi ymgyflwyno gyda phethau eraill, nid oedd ar ol gyda'r cyfeiriad hwn. Gwelodd angen ei wlad, llosgai ei galon drosti, a chydag argyhoeddiad mor ddwfn, a gwladgarwch mor eang, camp iddo ef a fuasai peidio âg aberthu dros ei wlad gydag addysg. Ni fethwn wrth ddweyd ei fod wedi gwneud mwy nag odid un aelod Cymreig arall i estyn addysg uwchraddol i afael gwerin ymdrechgar a sychedig Cymru. Onid oes miloedd yng Nghymru heddyw yn barod i ymostwng o flaen ei gofgolofn o barch i'w ymdrechion dihafal gyda'r Ysgolion Canolraddol ? A fuasai ein cenedl heddyw yr hyn ydyw gerbron cenhedloedd eraill ym myd addysg onibai ei ymroddiad diflino ef ? Efe oedd y prif symudydd gyda'r Ysgolion hyn; bu'n