Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/45

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

esbonio eu hamcan i'r bobl, ac yn egluro eu manteision i dlodion ei wlad. Cafodd ran amlwg yng nghynllunio darpariaethau y Ddeddf, oherwydd iddo gymeryd rhan mor flaenllaw gyda'r cwestiwn tra yn cael ei drafod.

Yr oedd wedi astudio angen Cymru; yr oedd yn argyhoeddedig y buasai llanciau a lodesi Cymru yn fwy cyfartal â chenhedloedd eraill pe wedi cael yr un manteision a hwy; gwyddai fod llu afrifed o dalentau gloew wedi gorfod aros wrth yr aradr oherwydd diffyg manteision; gwyddai fod miloedd wedi eu clymu wrth y cun a'r ordd yn y chwarel oherwydd diffyg cyfle a phrinder arian i ymgyrraedd at addysg uwchraddol y Coleg, a gwyddai am y golled a gafodd Cymru oherwydd fod mintai o Gymry athrylithgar wedi gorfod ymlynu wrth y gaib yn y pwll glo, oherwydd diffyg darpariaethau addysg yng Nghymru. A oedd yn rhyfedd fod ei galon yn ysu gan awydd am gael gwell addysg i blant gwerin ei wlad ? Goleuodd