Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/46

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ganwyll mewn tywyllwch megis; mynnodd fyned i ogofeydd anwybodaeth gyda hi ac argyhoeddodd rai o angen dyfnaf eu gwlad. Y mae Cymru yn oleuach heddyw fel canlyniad uniongyrchol ei ymdrechion ef a cherdda ym mhellach i'r goleuni y naill ddydd ar ol y llall, ar bwys y llinellau a osododd ef i lawr. Yr oedd yn gwybod am fanteision cenhedloedd eraill; gwyddai hefyd, yr un mor gywir, am anfanteision ei wlad ei hun. Nid chwilio am ddiffygion ei wlad er mwyn ei GWARTHRUDDO yr oedd ef, ond chwilio am danynt er mwyn ei GWELLA. Nid LLAWENHAU uwchben ei gwendidau yr oedd ef, ond GALARU. Yr oedd goleuni disglair addysg yn tywynnu ar genhedloedd eraill, ond yr oedd tywyllwch anwybodaeth yn gwgu uwchben Cymru.

"Nid llethu'r Cymro mewn llyffethair trymach
A wnai'r Ddeffroad nerthol, ond yn hytrach